Nod Academi Doniau Ifanc Gogledd Cymru yw rhoi i weithwyr dawnus y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i lwyddo yn yr amgylchedd cystadleuol a geir ym myd busnes heddiw.
Nod Academi Doniau Ifanc Gogledd Cymru yw rhoi i weithwyr dawnus y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i lwyddo yn yr amgylchedd cystadleuol a geir ym myd busnes heddiw.
Rhaglen bymtheg mis sy'n golygu treulio un diwrnod y mis yn dysgu'n rhyngweithiol yng Nghanolfan OpTIC, Llanelwy'n ogystal â dysgu'n hyblyg ar-lein.
Bydd y rhai a ddewisir yn cymryd rhan mewn tri bloc dysgu o'r enw 'Arwain Ymgyrch', 'Dysgu o Brofiad Pobl Eraill' a 'Torri Tir Newydd'. Bydd y rhain yn cynnwys sesiynau ar farchnata a chyfathrebu, arwain a rheoli, creadigrwydd, meddwl strategol, arferion gorau ledled y byd a datblygiadau digidol. I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at gaenor.roberts@glyndwr.ac.uk
© 2020 Academi Busnes Gogledd Cymru